|
Mae pum ffont y pecyn
safonol Ffontiau Cymraeg yn cyfateb i'r
ffontiau cyfrifiadurol cyffredinol:
Afallon (Avante Garde), Cwrwgl
(Courier), Heledd (Helvetica),
Padarn (Palatino) a Teifryn (Times).
Mae'r ffurfiau plaaen, trwm ac eidalaidd ac
eidalaidd trwm yn gynwysiedig yn y pecyn,
ar gael ar ffurf TrueType a PostScript.
|
Hanesyddol
Datblygodd MEU Cymru pum ffont gyflawn yn ogystal
â gyrrwr bysellfwrdd Cymraeg, AcenSyml a'u cyhoeddi yn 1993
ac maent wedi profi eu gwerth dros y blynyddoedd ac wedi'u derbyn
dros Gymru a Phrydain Fawr gan lywodraeth cenedlaethol a lleol, cwmnïau,
swyddfeydd ac ysgolion. Erbyn hyn, mae ffontiau Unicode yn gynnwysiedig
yn ein cyfrifiaduron cyfoes ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys yr
w a'r y to bach ac felly yn darparu'n gynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg,
ond mae angen teipio rhifau i mewn i'r bysellfwrdd os oes angen teipio
w neu y to bach!.
Technegol
Mae Ffontiau Cymraeg MEU Cymru yn cydymffurfio gyda safonau rhyngwladol
ar gyfer cyfrifiaduron, yn benodol â safon ISO-IR 182, yr
addasiad Gymraeg o ISO8859-1 (Lladin1). Maent hefyd yn cydymffurfio
â'r safon rhyngwladol ar gyfer iethoedd Celtaidd, sef ISO/IEC
8859-14 (Lladin 8).
Mae'r ffontiau ar gyfer Mac OS yn cydymffurfio â'r safon Geltaidd
ar gyfer Mac OS a ddatblygwyd gan MEU Cymru ac Everson Gunn Teoranta.
Am fwy o wybodaeth gweler http://www.egt.ie/celtscript/celtcode.html
.
Gyrrwr bysellfwrdd AcenSyml
Mae'r gyrrwr bysellfwrdd AcenSyml/EZAccent
sydd yn gynwysedig yn y pecyn yn eich galluogi chi i deipio'r llythrennau
acennog yn ddidrafferth o'r bysellfwrdd.
Mae dwy fersiwn ar gael:
|
Ffontiau Cymraeg ar gyfer Windows neu
Apple Macintosh
2 ddisg yn cynnwys y 5 ffont mewn
ffurfiau TrueType a PostScript,
llyfryn y defnyddiwr.
Ar gael drwy e-bost
|
Pris: £50.00
(yn cynnwys cludiant)
|
Opsiynau rhad
|
Diweddariad bysellfwrdd AcenSyml 2.1
|
£15
|
|
Un ffont gyda gyrrwr bysellfwrdd AcenSyml 2.1
|
£30
|
| Dau ffont
gyda gyrrwr bysellfwrdd AcenSyml 2.1 |
£40
|
|
Tri ffont gyda gyrrwr bysellfwrdd AcenSyml 2.1
|
£45
|
Pecynnau eraill
- ffontiau Cymraeg
a phatrymau Celtaidd
|
|
|