
Rhaglen gyfrifiadur yw Chwilotair sy'n cynnig sgwâr o lythrennau ar y sgrîn wedi'i gyflwyno fel pos i'w ddatrys o fewn amser cyfyngedig; gallwch hefyd gael allbrint o'r sgwâr gyda rhestr o'r geiriau cudd. Mae deuddeg gair a ddewiswyd ar hap o restr parod ar y ddisg wedi'u gosod o fewn y sgwâr. Mae cyfanswm o 27 o restri enwau yn gynwysiedig ar y ddisg mewn ffeiliau unigol. Gallwch ychwanegu enwau at y rhestri hyn neu greu eich rhestri eich hunan hefyd.PC
Ystod oedran: 8+
Pris: £22.18 + cludiant + TAW
Disg, llyfryn
Pecynnau eraill