Cysgliad
Y pecyn cyfrifiadurol
sy'n cynnwys:
Cysgeir
cyfuniad 8 geiriadur Cymraeg
a
Cysill3
fersiwn diweddaraf y gwirydd sillafu Cymraeg
|
|
Pris: £55
gan gynnwys cludiant
|
|
Cysgeir
Cysgeir yw'r geiriadur
newydd sy'n cynnwys:
* Geiriadur CysGair
* Y Termiadur Ysgol: Termau wedi'u safoni ar gyfer
ysgolion Cymru
* Geiriadur Termau Archaeoleg
* Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol
* Termau Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
* Termau Hybu Iechyd
* Termau Iechyd Meddwl Plant a phobl ifanc
* Termau Cyllid
* Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth
|
Mae
Cysgeir yn cynnwys Bar Offer ar gyfer Microsoft Word a Star/OpenOfficel.
Gall Cysgeir dorri a gludo geiriau Cymraeg a Saesneg o'i eiriadur i'ch
dogfen.
Mae'r rhaglen yn medru adnabod treigladau a rhediad berfau. Er enghraifft,
gall Cysgeir adnabod mai ffurf dreigledig o 'cath' yw 'gath', ac mai ffurf
ar 'ysgrifennu' yw 'ysgrifennodd'.
|
|
Cysill 3
Mae Cysill 3 yn cael
hyd i wallau sillafu a gramadeg yn y Gymraeg ac yn cynnig awgrymiadau am
ffurfiau cywir. Pan ddaw'r rhaglen ar draws gwall gramadegol, cewch eglurhad
(yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl eich dewis) o'r rheol ramadegol berthnasol.
Mae modd addasu eich dewisiadau, golygu eich geiriadur personol, newid
yr arddull a'r rheolau sillafu a gramadeg. Mae Cysill 3 hefyd yn cynnwys
Thesawrws sy'n cynnwys dros 3,000 o brifeiriau.
|
Mae Cysill 3 yn cynnwys Bar Offer ar
gyfer Microsoft Word a Star/OpenOffice ac mae modd i chi ei ddefnyddio trwy
gyfrwng bysell frys mewn cymwysiadau eraill.
Gellwch droi at ffeil Help gynhwysfawr o fewn y rhaglen am gyfarwyddiadau
ac esboniadau ar sut i ddefnyddio'r rhaglen yn effeithiol.
|