
Y broblem
Wrth ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfrifiadur rhaid ateb y broblem o roi acenion ar w ac y. sef ð ac þ.
Ein hateb
Os yw'r w ac y yn y frawddeg flaenorol yn ymddangos fel ð a þ, yna mae angen ffont Cymraeg arnoch i gael darllen gwefannau Cymraeg yn gywir, ac i ysgrifennu Cymraeg yn gywir ar eich cyfrifiadur. Gan osod ffont Cymraeg fel yr un y mae eich porwr we yn ei ddefnyddio yn ddiofyn, cewch weld safweoedd we Cymraeg yn eu holl gogoniant!Mae pum ffont y pecyn safonol Ffontiau Cymraeg yn cyfateb i'r ffontiau cyfrifiadurol cyffredinol: Afallon (Avante Garde), Cwrwgl (Courier), Heledd (Helvetica), Padarn (Palatino) a Teifryn (Times). Mae'r ffurfiau trwm ac eidalaidd ac eidalaidd trwm yn gynwysiedig. Maent ar gael ar ffurf TrueType neu PostScript ar gyfer argraffyddion laser. Mae'r ffontiau yn cynnwys y llythrenau acennog Ewropeaidd arferol hefyd. Mae sampl ar gael i'w ddadlwytho ar y dudalen hon.
Cliciwch yma am ragor o fanylionGyrrwr bysellfwrdd AcenSyml
Mae'r gyrrwr bysellfwrdd AcenSyml sydd yn gynwysedig yn y pecyn yn eich galluogi chi i deipio'r llythrennau acennog yn ddidrafferth o'r bysellfwrdd; mae ar gael ar gyfer y PC, yr Apple Macintosh ac Acorn.Ffontiau Cymraeg
PC Windows, Apple Macintosh
Pris: £50.00 + TAW
2 disg, llyfryn
Pecynnau eraill
E-bostiwch at meucymru@boltblue.com
Archebwch gyda cherdyn credyd neu debyd dros y ffôn
neu drwy anfon siec neu archeb swyddogol at:
MEU Cymru, 57 Beulah Road, Rhiwbina, CAERDYDD CF14 6LU
Ffôn/Ffacs: 029 20 626386