|
Cysgliad
Y pecyn
cyfrifiadurol sy'n cynnwys:
Cysgeir
cyfuniad 8 geiriadur Cymraeg
Cysill3
fersiwn diweddaraf y gwirydd sillafu Cymraeg
|
Fersiwn Windows
Pris: £40
(+ £3 cludiant wedi'i cofrestru)
Fersiwn Mac
dadlwytho o wefan e-gymraeg
Cliciwch yma...
|
|
Cysgeir
Cysgeir
yw'r geiriadur newydd sy'n cynnwys:
* Geiriadur CysGair
* Y Termiadur Ysgol: ar gyfer ysgolion Cymru
* Geiriadur Termau Archaeoleg
* Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol
* Termau Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
* Termau Hybu Iechyd
* Termau Iechyd Meddwl Plant a phobl ifanc
* Termau Cyllid
* Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth
|
Mae Cysgeir yn cynnwys Bar Offer
ar gyfer Microsoft Word a Star/OpenOfficel.
Gall Cysgeir dorri a gludo geiriau Cymraeg a Saesneg
o'i eiriadur i'ch dogfen.
Mae'r rhaglen yn medru adnabod treigladau a rhediad
berfau. Er enghraifft, gall Cysgeir adnabod mai ffurf dreigledig
o 'cath' yw 'gath', ac mai ffurf ar 'ysgrifennu' yw 'ysgrifennodd'. |
|
Cysill
3
Mae Cysill 3 yn cael hyd i wallau
sillafu a gramadeg yn y Gymraeg ac yn cynnig awgrymiadau am ffurfiau
cywir. Pan ddaw'r rhaglen ar draws gwall gramadegol, cewch eglurhad
(yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl eich dewis) o'r rheol ramadegol
berthnasol.
Mae modd addasu eich dewisiadau, golygu eich geiriadur
personol, newid yr arddull a'r rheolau sillafu a gramadeg. Mae
Cysill 3 hefyd yn cynnwys Thesawrws sy'n cynnwys dros 3,000 o brifeiriau.
|
Mae Cysill 3 yn cynnwys Bar Offer ar
gyfer Microsoft Word a Star/OpenOffice ac mae modd i chi ei ddefnyddio trwy
gyfrwng bysell frys mewn cymwysiadau eraill.
Gellwch droi at ffeil Help gynhwysfawr o fewn y rhaglen
am gyfarwyddiadau ac esboniadau ar sut i ddefnyddio'r rhaglen
yn effeithiol. |