|
Gosod
Windows 7 |
Os ydych yn defnyddio Windows XP, Vista neu Windows 7, mae holl lythrennau acennog y Gymraeg eisoes yn y cyfrifiadur yn y rhan helaeth o;r ffontiau sydd ynddo.Yn y gorffennol, roedd AcenSyml 2.1 yn ei wneud hi'n hawdd i chi deipio'r llythrennau hyn gyda chyfuniadau hawdd-eu-cofio o'r bysellau. Roedd hwn yn iawn gyda fersiynau Windows hyd at Windows XP ond nid yw'n gweithio gyda rhaglenni diweddar ee. Word sydd yn rhedeg gyda Windows 7
Gallwch osod eich cyfrifiadur i ddefnyddio'r gyrrwr bysellfwrdd Cymraeg sydd yn awr y wedi'i gynnwys yn Windows 7, Vista and XP.
Mae gyrrwr bysellfwrdd Cymraeg Windows yn sganio'r bysellau ac yn chwilio am gyfuniadau bysellau sydd yn dangos y llythrennau acennog.
Am fanylion am ba fysellau sy'n cael eu defnyddio,
ewch at dudalen Gyrrwr Bysellfwrdd Cymraeg Windows.Mae moddau gan Windows 7, XP and Vista i deipio'r holl lythrennau acennog sy'n cael eu defnyddio yn Gymraeg ond cyn eu defnyddio, mae angen gosod y gyrrwr bysellfwrdd Cymraeg yn weithredol.
I wneud hyn, mae'n angenrheidiol i chi gael hawliau rheoli'ch cyfrifiadur (Admistrator's rights).
Cliciwch yma os nad ydych yn gwybod sut i drefnu hyn.
Gosod y Gyrrwr Bysellfwrdd Cymraeg yn Windows 7
Agorwch y panel rheoli (Control Panel) a dewiswch
Clock, Language, and Region
ac o fewn hyn dewiswch Region and Language.
Wedyn dilynwch y camau isod:1. Cliciwch ar Keyboard and Languages
2. Cliciwch ar Change keyboards.
Bydd blwch rheoli Text Services and Input Languages yn ymddangos.3. Cliciwch Add.
4. Dewiswch Welsh
(United Kingdom Extended)
5. Cadarnhewch eich dewis OK ym mlwch Text Services and Input Languages.
6. Cadarnhewch to OK ym mlwch Region and Language.
7. Caewch y panel rheoli.
Crynodeb o'r cyfuniadau bysellau am gael yr acenion gyda'r gyrrwr bysellfwrdd Cymraeg.
- am ragor o wybodaeth gweler dudalen y gyrrwr bysellfwrdd Cymraeg
Acen ddyrchafedig
<ctrl><alt> <'> (bysell @) ac wedyn y llafariad.
llwybr taro: <ctrl><alt> gyda llafariad (nid é neu É: € yn disodli é).Acen Grom (To bach)
<ctrl><alt><6> yna'r llafariad.
Acen ddisgynedig
<`>- (bysell acen ddisgynedig - ar y chwith i fysell rhif 1) yna'r llafariad. (Dim <ctrl><alt>)
Didolnod
<ctrl><alt><2> yna'r llafariad.
E-bost e-bost@meucymru.co.ukMEU Cymru, 57 Beulah Road, Rhydwaedlyd, CAERDYDD CF14 6LU
Ffôn/Ffacs: 029 20 628300