Cysgliad

Y pecyn cyfrifiadurol
sy'n cynnwys:
Cysgeir

cyfuniad 8 geiriadur Cymraeg
a
Cysill3
fersiwn diweddaraf y gwirydd sillafu Cymraeg

Cysgliad

in English

Pris: £55 

gan gynnwys cludiant

Cysgeir

Cysgeir

Cysgeir yw'r geiriadur newydd sy'n cynnwys:
* Geiriadur CysGair
* Y Termiadur Ysgol: Termau wedi'u safoni ar gyfer    
   ysgolion Cymru
* Geiriadur Termau Archaeoleg
* Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol
* Termau Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
* Termau Hybu Iechyd
* Termau Iechyd Meddwl Plant a phobl ifanc
* Termau Cyllid
* Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae Cysgeir yn cynnwys Bar Offer ar gyfer Microsoft Word a Star/OpenOfficel.

Gall Cysgeir dorri a gludo geiriau Cymraeg a Saesneg o'i eiriadur i'ch dogfen.

Mae'r rhaglen yn medru adnabod treigladau a rhediad berfau. Er enghraifft, gall Cysgeir adnabod mai ffurf dreigledig o 'cath' yw 'gath', ac mai ffurf ar 'ysgrifennu' yw 'ysgrifennodd'.

Cysill3

Cysill 3

Mae Cysill 3 yn cael hyd i wallau sillafu a gramadeg yn y Gymraeg ac yn cynnig awgrymiadau am ffurfiau cywir. Pan ddaw'r rhaglen ar draws gwall gramadegol, cewch eglurhad (yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl eich dewis) o'r rheol ramadegol berthnasol.

Mae modd addasu eich dewisiadau, golygu eich geiriadur personol, newid yr arddull a'r rheolau sillafu a gramadeg. Mae Cysill 3 hefyd yn cynnwys Thesawrws sy'n cynnwys dros 3,000 o brifeiriau.

Mae Cysill 3 yn cynnwys Bar Offer ar gyfer Microsoft Word a Star/OpenOffice ac mae modd i chi ei ddefnyddio trwy gyfrwng bysell frys mewn cymwysiadau eraill.

Gellwch droi at ffeil Help gynhwysfawr o fewn y rhaglen am gyfarwyddiadau ac esboniadau ar sut i ddefnyddio'r rhaglen yn effeithiol.


Ffontiau
Cymraeg
Logo MEU Cymru
Meddalwedd addysgol
Cymraeg


E-bostiwch at  meucymru@tiscali.co.uk

Archebwch drwy anfon siec neu archeb swyddogol at:
MEU Cymru, 57 Beulah Road, Rhydwaedlyd, CAERDYDD  CF14 6LU
Ffôn/Ffacs: 029 20 626386